Clybiau’n dathlu Diwrnod Ewrop!

Bydd Diwrnod Ewrop yn digwydd ar Mai 9fed bob blwyddyn ac yn dathlu heddwch ac undod yn Ewrop.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Iwerddon (FAI) a’r fenter gymdeithasol Gymreig Vi-Ability yn nodi’r achlysur trwy godi baner yr Undeb Ewropeaidd ar ddwy ochr Môr Iwerddon. Mae’r ddwy gymdeithas, fel ei gilydd, yn cael budd oddi wrth ariannu Ewropeaidd sydd wedi’i fwriadu i greu mentrau cymdeithasol mewn cymunedau difreintiedig yn Iwerddon a Chymru trwy fod yn cydweithredu ar y prosiect “Mwy na Chlwb”.

Yn y prosiect “Mwy na Chlwb” mae’r FAI a Vi-Ability yn cydweithio gyda’i gilydd, gwaith sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF). Mae’r prosiect peilot yn cael ei gefnogi gan Raglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd Iwerddon Cymru, sy’n helpu i gryfhau cydweithrediad rhwng Iwerddon a Chymru i roi sylw i heriau economaidd a chymdeithasol sy’n wynebu’r ddwy wlad.

Nod y prosiect yw datblygu mentrau cymdeithasol newydd sydd wedi alinio gyda phedwar clwb pêl-droed, yn Iwerddon a Chymru. Bydd hynny’n dylunio, datblygu a darparu rhaglenni cymdeithasol sy’n defnyddio syniadau newydd ac wedi’u canoli o gwmpas iechyd, addysg a chynhwysiad cymdeithasol.

Clybiau sy’n bartneriaid yn hyn yw Clwb Pêl-droed Bwrdeistref Conwy a Chlwb Sir Hwlffordd yng Nghymru ac, yn cyfateb iddynt yn Iwerddon, Bohemian FC a Cork City FC. Bydd y rhain yn darparu gweithgareddau yn ystod mis Mai i ddangos sut mae’r rhaglen Iwerddon-Cymru, gydag arian Ewropeaidd, yn hwyluso’r arfer a’r dysgu gorau. Mae’n nod allweddol i fod yn rhoi sylw i iechyd, cynhwysiad cymdeithasol ac addysg ym mhob un o ardaloedd y clybiau hyn.

Ar Ddiwrnod Ewrop, roedd Conwy’n fan cyfarfod i ‘Glwb Picasso’ sy’n gweithio gyda chyrff lleol, Conwy Connect a cherddoriaeth a ffilm Cymunedol TAPE, i ddarparu dosbarthiadau celf ar gyfer unigolion gydag anableddau dysgu ac anhwylderau iechyd meddwl. Bydd y rhaglen hon yn digwydd bob dydd Mawrth, yn y bore a’r prynhawn, yn adeilad clwb Bwrdeistref Conwy.

Aeth y grŵp ati i baentio baneri Cymru, Iwerddon ac Ewrop, sydd wedi cael eu harddangos yn adeilad y Clwb, yn ogystal â chodi’r fflagiau i ddathlu’r Diwrnod hwn.

Mae manteision diddiwedd ar gyfer unigolion sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yng Nghonwy, a bydd y dysgwyr yn cael budd mewn amrywiaeth o ffyrdd;

 

  • symbylu sgiliau dysgu cymdeithasol a chyfathrebu mewn prosiectau grŵp
  • gwella cydsymud a sgiliau echddygol bras a manwl
  • datblygiad dysgu cyflymach trwy gynyddu ymwybyddiaeth o beth sydd o’u cwmpas
  • gwella’r defnydd o sgiliau amgyffred ac ymateb i symbyliad
  • cynyddu ymwybyddiaeth o wahanol synhwyrau fel cyffyrddiad, clyw, golwg ac arogli.

Bydd rhai o’r grŵp sy’n cymryd rhan yng nghlwb Picasso hefyd yn cael budd o’r sesiynau Pêl-droed Cerdded bob dydd Sadwrn, sy’n digwydd yn y clwb. Yn ogystal â Picasso a Phêl-droed Cerdded, mae’r clwb hefyd yn lleoliad ar gyfer y sesiynau Slimming World lleol. Bydd yn hyrwyddo gweithgareddau iach ar gyfer y merched a’r dynion sy’n dod yno, yn ogystal â bod yn ganolfan amlbwrpas i gymdeithasau lleol ac aelodau o’r cymunedau ei defnyddio.

Mae Kelly Davies yn Bennaeth Cymuned y prosiect hwn, ac yn Sefydlydd Vi-Ability. Dywedodd hi fel hyn: “Rydan ni eisiau i Glwb Pêl-droed Bwrdeistref Conwy ddod yn ganolbwynt i’r gymuned. Rydan ni’n credu bod llawer iawn mwy o bobl yn dod i mewn trwy ddrysau’r clwb oherwydd y prosiect “Mwy na Chlwb”. Cafodd Clwb Bwrdeistref Conwy lwyddiant ar y maes pêl-droed ac mae pethau’n edrych yn llewyrchus iawn tu hwnt i’r prosiect peilot hwn. Er hynny, mae angen i gyrff lleol a phobl leol weithio efo’i gilydd i barhau efo’r gwaith, a’n rol ni ydi addysgu a darparu cyfleoedd i bobl allu tyfu a ffynnu.”

Mae rhaglenni cymdeithasol tebyg wedi bod yn digwydd yn Iwerddon, gyda Bohemian FC a Cork City FC yn darparu cynlluniau gwerthfawr fel Pêl-droed Cerdded a rhaglen unigryw Trawsnewid Pêl-droed. Mae honno’n cefnogi plant ysgol gynradd gyda sgiliau rhifedd a hefyd yn hyrwyddo gweithgareddau corfforol iach ymysg y grŵp. Mae rhaglen cefnogi dementia gyda thema pêl-droed hefyd wedi bod yn mynd ymlaen yn y ddau ranbarth. A bydd yr FAI a Vi-Ability yn hwyluso cyfnewid dysgu trwy gymharu a rhannu eu profiadau a’r ffyrdd o ymgysylltu gyda’r gwahanol bobl sy’n defnyddio eu gwasanaethau wrth i’r prosiect esblygu ar draws y ddau ranbarth.

Rheolwr y prosiect yn Iwerddon yw Derek O’Neill a dyma ddywedodd ef:

“Mae Diwrnod Ewrop yn ddiwrnod i adlewyrchu ar y cyfleoedd sydd wedi dod wrth gael mynediad at arian yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r FAI a Vi-Ability yn arbennig o falch o’r cyfle i gydweithredu ar brosiect mor werthfawr â “Mwy na Chlwb” sydd nid yn unig yn hyrwyddo gwaith da yn gymdeithasol yn y ddau ranbarth ond hefyd yn dod â newid gwirioneddol sy’n gwella bywydau cymaint o bobl.”