Y “tanjerȋns” yn troi’n las i gefnogi canser y brostad ymwybyddiaeth

Cynhelir noson arbennig i godi ymwybyddiaeth o ganser y brostad yn CPD Bwrdeistref Conwy ar Nos Wener 21ain Medi, i gefnogi Prostate Cymru, prif elusen iechyd y brostad yng Nghymru. Mae CPD Bwrdeistref Conwy yn glwb pêl-droed lled-broffesiynol yng Nghonwy, yn chwarae yng Nghynghrair Cynghrair Huws Gray. Dechreuodd y clwb y tymor hwn ar bwynt uchel ar ôl ennill y gynghrair tymor 2017/18.

Gyda rhai aelodau i’r clwb wedi’u heffeithio gan ganser y brostad yn ddiweddar, y canser mwyaf cyffredin a ganfu mewn dynion yng Nghymru, penderfynodd CPD Bwrdeistref Conwy ymuno â Prostate Cymru i godi ymwybyddiaeth ac i godi arian ar noson yr ornest leol yn erbyn Y Rhyl, sy’n cychwyn am 7:30pm.

Mae’r clwb a elwir “y tanjerȋns” yn troi’n las am y noson gyda’r tȋm yn hyfforddi mewn crysau-t- Prostate Cymru a rhaglen y dydd yn newid lliw i gefnogi’r achos. Mae’r clwb yn annog cefnogwyr i ymuno drwy wisgo glas i’r gêm yn erbyn Y Rhyl. Bydd rhai crysau-t ar gael i’w prynu ar y diwrnod er mwyn helpu selogion i ddangos eu cefnogaeth.   Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth hanfodol o ganser y brostad, sy’n effeithio ar 1 o bob 8 o ddynion yng Nghymru, bydd raffl a chasgliad, gyda chanran o werthiant tocynnau’r gêm yn cael ei roi i Prostate Cymru.

Mae’r diwrnod yn rhan o fenter Mwy Na Chlwb, rhaglen sy’n ymroddedig i helpu clybiau i ddefnyddio pŵer pêl-droed i ddatblygu cysylltiadau yn eu cymunedau lleol. Mae CPD Bwrdeistref Conwy yn un o bedwar clwb yng Nghymru ac Iwerddon sy’n cymryd rhan ym mhrosiect Mwy Na Chlwb, dan arweiniad Cymdeithas Pêl-droed Iwerddon a Vi-Ability, er mwyn datblygu a chyflwyno rhaglenni cymdeithasol arloesol sy’n canolbwyntio ar iechyd, addysg a chynhwysiant cymdeithasol.

Dywedodd Mandy Powell, Arloesi Cymuned: “Rydym yn edrych ymlaen at gynnal y digwyddiad hwn mewn partneriaeth â Prostate Cymru a CPD Bwrdeistref Conwy. Hoffem hefyd gydnabod parodrwydd ac uchelgais CPD Bwrdeistref Conwy i fod yn ‘Fwy Na Chlwb’ a bod wrth galon y gymuned. Rydym yn croesawu pobl Conwy i fod yn ‘Gymdogion Oren’ a gobeithiwn agor ddrysau’r clwb i bawb yng Nghonwy. Gobeithiwn fod y rhaglenni yr ydym yn eu cyflawni yn y clwb yn parhau i ffynnu ac i dyfu, ac yn parhau i hyrwyddo agweddau ac ymddygiadau cadarnhaol o ran iechyd meddwl a chorfforol.”

Dywedodd Chris Whilton, Cadeirydd CPD Bwrdeistref Conwy: “Mae pawb yn CPD Bwrdeistref Conwy yn falch iawn i groesawu Prostate Cymru i’r Morfa, ac i’w helpu i godi ymwybyddiaeth o ganser y brostad. Rydym yn ystyried ein hunain fel mwy na chlwb pêl-droed ac mae’n bwysig ein bod yn rhoi cymorth i fudiadau gwych sy’n gweithio’n galed er budd y gymuned ehangach.”

Bydd gwirfoddolwyr Prostate Cymru yn cynnal stondin ymwybyddiaeth yn Stadiwm y Morfa ar 21ain Medi. Yno bydd Owen ac Amy yn sôn am yr hyn y mae’r elusen yn ei gwneud, y ffeithiau allweddol am gyflwr prostad diniwed, a chanser y brostad a’r ystadegau risg ar gyfer dynion yng Nghymru.

Rydym yn gobeithio y bydd y nifer uchaf erioed yn gwylio, felly plîs dangoswch eich cefnogaeth trwy wisgo glas a dewch i’r gêm o 7 pm Nos Gwener 21ain Medi 2018.