Clwb Pêl-droed Bwrdeistref Conwy yn gwisgo cit lliwiau’r enfys er mwyn mynd i’r afael â homoffobia.

Ddydd Gwener 8fed Mawrth, daeth chwaraewyr CPD Bwrdeistref Conwy allan i’r cae mewn cit lliwiau’r enfys i chwarae gêm yn erbyn CPD Prestatyn, er mwyn cefnogi brwydr pêl-droed yn erbyn homoffobia.

Yn dilyn esiampl CPD Altrincham, dyma’r cyntaf o’i fath ym myd pêl-droed Cymru, disodlwyd lliwiau tanjerîn/oren tîm Cynghrair Huws Grey gyda lliwiau baner balchder LHDT. Dyma enghraifft wych arall o’r gweithgareddau ymwybyddiaeth iechyd a chymuned diweddar a ddatblygwyd ac a reolir gan CPD Bwrdeistref Conwy fel rhan o’r prosiect Mwy Na Chlwb a lansiwyd y llynedd.

Mae Mwy Na Chlwb yn fenter ar y cyd rhwng Cymdeithas Pêl-droed Iwerddon a’r fenter gymdeithasol fywiog o Gymru, Vi-Ability.  Ariennir y prosiect gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy raglan Cydweithredu Cymru Iwerddon 2014-2020.

Bydd y prosiect yn rhoi grym i’r clybiau i gydnabod a defnyddio atyniad pwerus pêl-droed a gwerth brand eu clybiau yn lleol i ddatblygu partneriaethau strategol allweddol gydag asiantaethau statudol a grwpiau cymunedol er mwyn cyflwyno rhaglenni cymdeithasol pwysig. Yn y broses, disgwylir y bydd clybiau’n esblygu fel endidau cymunedol mwy gwerthfawr, yn dod yn fwy perthnasol i fwy o bobl yn eu cymunedau. Enghraifft ddiweddar o effaith Mwy Na Chlwb oedd llwyddiant codi ymwybyddiaeth leol a chodi arian ar gyfer canser y brostad, mewn cydweithrediad a’r elusen Gymraeg Prostate Cymru.

Mae Pêl-droed vs Homoffobia yn ymgyrch fyd-eang sydd yn uno cefnogwyr, cymunedau, timau ar lawr gwlad, clybiau proffesiynol, a chyrff llywodraethu, i drechu homoffobia a rhagfarn yn erbyn Lesbiaid, Pobl Hoyw, Deurywiol, a Thraws (LHDT) mewn pêl-droed.  Bydd chwaraewyr Conwy yn gwisgo cit sydd wedi wedi’i ddylunio yn arbennig gan ‘SKKits’ gyda’r logo Pêl-droed vs Homoffobia yn amlwg ac yn ganolog ar y crys chwarae.

Dywedodd Cadeirydd y Clwb, Chris Wilton:

“Dros y misoedd diwethaf, mae arolygon barn wedi dangos er y byddai cefnogwyr pêl-droed yn fwy parod nag erioed i dderbyn chwaraewr hoyw i’w tîm, mae cymaint â 72% o gefnogwyr pêl-droed wedi clywed camdriniaeth homoffobaidd mewn gemau pêl-droed.

“Mae defnyddio iaith homoffobaidd neu drawsffobaidd tuag at rywun oherwydd nad ydych yn hoffi’r ffordd y maent yn chwarae pêl-droed, yn rheoli tîm, yn gwneud penderfyniad dyfarnu, neu oherwydd pwy y maent yn eu cefnogi, yn anghywir. 

“Mae yn erbyn Deddfau’r Gêm a gall fod yn drosedd, ond yn bwysicaf oll, gall wneud pêl-droed yn le bygythiol ac annymunol i gyd-gefnogwyr, chwaraewyr, swyddogion gêm a gweinyddwyr y gêm.

“Nid ydym yn derbyn y math hwnnw o ymddygiad yma yn Stadiwm Y Morfa, ac rydym mor falch ein bod ni fel clwb wedi gallu chwarae ein rôl wrth dynnu sylw at hyn ac annog timau Cymreig eraill i ddilyn ein hesiampl.”

Mae CPD Bwrdeistref Conwy yn un o bedwar clwb gyda phrosiect Iwerddon Cymru Mwy Na Chlwb, a ariennir trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Ychwanegodd Mandy Powell, Arweinydd Iechyd a Mentrau ar gyfer rhaglen gymunedol Mwy Na Chlwb CPD Bwrdeistref Conwy.

“Mae agweddau mewn pêl-droed yn newid, ond mae angen i ni gyd sicrhau bod yr iaith a ddefnyddiwn a’r ffordd yr ydym yn ymddwyn yn adlewyrchu hyn. Yma, rydym ni’n wir yn credu y gallwn ni helpu i wneud gwahaniaeth go iawn i ddiwylliant pêl-droed yng Nghymru, a hoffem i bawb gefnogi hefyd. Gwyddom fod y newid yn dechrau gydag addysg ac mae CPD Bwrdeistref Conwy yn cydnabod y rôl y mae’n rhaid iddo ei chwarae wrth arwain y ffordd o godi ymwybyddiaeth o wahaniaethu homoffobia a LHDT yn y clwb ac yng nghymuned leol Conwy.”

Ar ôl y chwiban olaf, cafodd y cit cyfan eu rhoi ar ocsiwn i godi arian i helpu achosion LHDT lleol fwrw ymlaen gyda’u gwaith da ar hyd arfordir Gogledd Cymru.

Ychwanegodd Mandy: “Rydym wedi bod wrth ein bodd â llwyddiant gweithgareddau diweddar CPD Bwrdeistref Conwy: ceginau ‘pop-up’ iechyd y GIG; digwyddiadau codi arian a chodi ymwybyddiaeth o ganser y brostad; gweithgareddau cyfeillion dementia; a theithiau cerdded hel atgofion yw dim ond ychydig o esiamplau dros y chwe mis diwethaf. Bydd digwyddiadau codi ymwybyddiaeth gymunedol fel y rhain, nid yn unig yn helpu i godi arian hanfodol i alluogi’r elusennau lleol barhau â’u gwaith, ond bydd gwerthiant hirdymor crysau replica hefyd yn helpu i gynnal y clwb a rhaglen Mwy Na Chlwb.”

Nod Mwy Na Chlwb yw defnyddio grym pêl-droed i fynd i’r afael â materion pwysig megis homoffobia yn y gymuned leol. Dyma’r tro cyntaf yng Nghymru i ddigwyddiad gael ei gynnal ac rydym wrth ein bodd bod diwylliant bellach wedi’i ddatblygu ble mae trigolion / aelodau clwb eisiau mynd ati i drefnu materion lleol eu hunain a chymryd perchnogaeth dros faterion cymunedol.

Mae gan y gymuned LHDT gysylltiad agos â salwch iechyd meddwl. Mae’n realiti anghyfforddus ond bwysig bod pobl ifanc LHDT bedair gwaith yn fwy tebygol o ladd eu hunain na’u cymheiriaid heterorywiol. Mae mwy na hanner yr unigolion sy’n arddel hunaniaeth dawsrywiol yn profi iselder neu bryder.

Ewch i’r wefan am wybodaeth a dewch draw ar Fawrth 8fed i ddangos eich cefnogaeth! Bydd croeso cynnes i chi yn CPD Bwrdeistref Conwy.

Bydd crysau replica unigryw ar gael i’w prynu oddi wrth y clwb, yn dilyn mewnlifiad o ymholiadau o bob cwr o’r byd.

Oedolyn – £35 a phostio

Plentyn – £28 a phostio

I brynu crys a darn o hanes pêl-droed Cymru, a fyddech cystal ag e-bostio: conwyboroughfc@outlook.com

Cysylltwch â ni am fwy o fanylion os oes gennych ddiddordeb yn y prosiect Mwy Na Chlwb. Mae’r prosiect yn rhoi grym i’r clybiau i gydnabod a defnyddio atyniad pwerus pêl-droed a gwerth brand eu clybiau yn lleol i ddatblygu partneriaethau strategol allweddol gydag asiantaethau statudol a grwpiau cymunedol er mwyn cyflwyno rhaglenni cymdeithasol pwysig.