Tra bod timau cenedlaethol o Iwerddon a Chymru yn brwydro i ennill gêm Cynghrair Cenhedloedd UEFA yn Stadiwm Aviva, Dulyn, ddydd Mawrth 16 Hydref, roedd cenhedlaeth arall o bêl-droedwyr “Hŷn” Gwyddelig a Chymreig yn troi’r cloc yn ôl gydag arddangosfa wych o sgiliau pêl-droed a chyfeillgarwch amlwg a oedd yn difyrru’r gynulleidfa fawr yn ystod yr egwyl hanner amser.
Roedd cynrychiolwyr o raglenni Pêl-droed Cerdded “Mwy na Chlwb” yn Iwerddon a Chymru wrth law i arddangos peth o’r gwaith sy’n cael ei wneud oddi ar y maes gan Gymdeithas Pêl-droed Iwerddon (FAI) a’i phartner, Vi-Ability, menter gymdeithasol o Gymru, fel rhan o brosiect cydweithredu trawsffiniol Iwerddon Cymru.
Mae “Mwy na Chlwb” yn brosiect sy’n ceisio datblygu mentrau cymdeithasol newydd ochr yn ochr â chlybiau pêl-droed proffesiynol yn Iwerddon a Chymru, ac ar hyn o bryd mae’n datblygu a chyflwyno rhaglenni cymdeithasol arloesol sy’n canolbwyntio ar iechyd, addysg a chynhwysiad cymdeithasol.
Cefnogir y prosiect peilot gan raglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd Iwerddon Cymru, sy’n helpu i gryfhau cydweithio rhwng Iwerddon a Chymru, i fynd i’r afael â heriau economaidd a chymdeithasol cyffredin.
Mae’r rhaglen Pêl-droed Cerdded yn fenter gymdeithasol sydd wedi’i chynllunio ar gyfer pobl hŷn sy’n hoff o bêl-droed ac yn awyddus i gadw’n heini a chadw diddordeb mewn chwarae pêl-droed. Mae’n fersiwn o’r gêm lle gall pawb ymuno yn waeth beth fo’u hoedran neu eu cyflwr corfforol, oherwydd y rheolau unigryw a anelir at osgoi anafiadau a hwyluso chwarae pêl-droed gan y rhai a allai fod dan anfantais yn gorfforol.
Mae’r modd y mae’r gêm yn cael ei chwarae yn hyrwyddo ffitrwydd cardiofasgwlaidd wrth roi llai o straen ar y corff. Mae hefyd yn helpu’r rhai sy’n chwarae i fyw bywyd llawn mynd. Mae pêl-droed cerdded ar gynnydd yn Iwerddon a Chymru ac mae’n ddull cymdeithasol gwerthfawr i bobl hŷn a allai fod yn dioddef o ynysu cymdeithasol neu sydd eisiau parhau i chwarae’r gêm y maen nhw wedi ei garu ers degawdau.
Er bod chwarae’r gêm ei hun yn atyniad mawr, mae’r baned o de ar ôl gêm a sgwrs gyda chyd-garwyr pêl-droed yr un mor bwysig. Mwynhaodd chwaraewyr y ddau dîm brofiad Aviva yn llwyr, o flaen bron i 40,000 o gefnogwyr gyda gêm gyffrous yn gorffen yn gyfartal.
Dywedodd Michael Brute, chwaraewr i Gymru: “Fe wnes i fwynhau hynny! Dyna brofiad oedd chwarae o flaen bron i 40,000 o bobl. Roedd yn wych gwneud hyn gyda bechgyn sydd wedi dod yn ffrindiau da trwy gymryd rhan yn y rhaglen pêl-droed cerdded yng Nghonwy.”
Y gêm bêl-droed cerdded oedd ail ddigwyddiad y prosiect y diwrnod hwnnw ac yn dilyn cyfarfod pwyllgor llywio prosiect “Mwy na Chlwb” yn gynharach i drafod llwyddiannau’r prosiect hyd yn hyn ac i archwilio partneriaethau newydd a chynlluniau i’r dyfodol ar gyfer y mentrau cymdeithasol a enwyd fel rhan o’r prosiect hwn.
Ar y cyfan, roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol ac yn dangos arwyddion calonogol bod y prosiect yn ymgysylltu â’r rhai anoddaf i’w cyrraedd, gan wella iechyd cymunedol, lles, a datblygu mentrau cymdeithasol blaengar a fydd yn parhau i gefnogi pobl ar draws y pedwar rhanbarth yn Iwerddon a Chymru (Dulyn, Cork, Conwy a Sir Benfro).
Meddai rheolwr y prosiect, Derek O’Neill:
“Yn sicr, mae’r mentrau cymdeithasol newydd a ffurfiwyd gyda chymorth rhaglen Iwerddon Cymru yn cael effaith gadarnhaol ar ystod eang o bobl, o blant i aelodau hŷn y gymuned yng nghymunedau Gwyddelig a Chymreig. Mae’r ystod o raglenni sy’n cael eu cyflwyno yn mynd i’r afael ag amrywiaeth o anghenion cymdeithasol ac mae ein rhaglen Pêl-droed Cerdded yn un o’r ymyriadau gwerthfawr sy’n cyfrannu at welliant ym mywydau pobl.
“Mae’n wych gweld yr angerdd sydd gan y pêl-droedwyr cerdded o Iwerddon a Chymru am y gêm. Fe wnaethant fwynhau’r profiad o berfformio o flaen bron i 40,000 o gefnogwyr ar gae bendigedig Aviva. Roedd y cyfeillgarwch ymhlith y ddau dîm o chwaraewyr yn arbennig o galonogol ac yn arwydd clir o’r hyn y mae’r rhaglen hon yn ei olygu … yn mwynhau gêm o bêl-droed waeth pa oedran yr ydych chi ac, efallai, yn bwysicach fyth, yn mwynhau’r cyfle cymdeithasol y mae’r rhaglen hon yn ei chynnig. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y fersiwn hon o’r gêm yn parhau i ffynnu.”