Mwy na chlwb – Taith Cofio

Mae ‘Mwy na chlwb’ a Chlwb Pêl-droed Bwrdeistref Conwy yn cydlynu ‘Taith Cofio’, ac yn gwahodd aelodau o’r gymuned yng Nghonwy i ymuno. Mae hyn yn ffurfio rhan o ymgyrch ymwybyddiaeth y Gymdeithas Alzheimer’s, ynghyd â gwaith cydweithredol Vi-Ability a Chymdeithas Pêl-droed Iwerddon i hybu iechyd a lles cadarnhaol yn y gymuned.

Bydd y daith 3 milltir yn cychwyn yng Nghlwb Pêl-droed Bwrdeistref Conwy, yn mynd i fyny at y Mulberry Pub, ac yna’n dilyn y llwybr arfordirol i’r castell enwog, Castell Conwy. Bydd wedyn yn dolennu’n ôl i’r clwb pêl-droed ar Ffordd Penmaen.

Yna byddwn yn croesawu pawb i Glwb Clwb Pêl-droed Bwrdeistref Conwy, lle byddwn yn cwrdd â chynrychiolwyr o Alzheimer’s UK, a fydd wedi dod i rannu rhywfaint o wybodaeth, ynghyd â sôn am y ffyrdd y gall pobl amlygu eu cefnogaeth i unigolion sy’n dioddef o’r clefyd.

Bydd diwrnod Cacennau Cwpan blynyddol Alzheimer’s UK yn cael ei gynnal ar 14 Mehefin, felly bydd ein gwirfoddolwyr cymunedol wedi addurno cacennau cwpan blasus i’w gwerthu ar ôl y daith gerdded. Bydd yna hefyd de a choffi ar gael, ynghyd â chyfle i sgwrsio ag aelodau o’r gymuned a sefydliadau lleol.

Dyddiad – Dydd Mercher 13 Mehefin 2018

12:30 pm – Cwrdd yn y Clwb Pêl-droed

1:00 pm – Taith Cofio o gwmpas Conwy

2.30 pm – Dychwelyd i’r clwb am de a chacennau cwpan

3.00 pm – Rhwydweithio a thrafodaethau yn y clwb ar raglenni iechyd cymunedol (er enghraifft pêl-droed dan gerdded, a’r prosiect llunio cof, The Memory Maker Project, yn ogystal â sut y gallwn gydweithio i wella ymwybyddiaeth o iechyd yn y gymuned.”