Mwy na Chlwb – Taith Cofio!

13 Mehefin 2018

Ddydd Mercher 13 Mehefin, croesawodd menter gymdeithasol newydd Clwb Pêl-droed Bwrdeistref Conwy, Y Cymdogion Oren, aelodau o’r gymuned a phartneriaid i’r clwb.

Aeth y grŵp cymunedol ati i ddarparu ‘Taith Cofio’ er mwyn codi ymwybyddiaeth o Ddementia, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’r rhaglenni cymunedol sy’n cael eu cyflwyno yng nghyfleusterau rhagorol y clwb ar gyfer pobl Conwy.

 

 

Roedd y diwrnod yn cefnogi ymgyrch ehangach y Gymdeithas Alzheimer’s, ynghyd â gwaith cydweithredol Vi-Ability a Chymdeithas Pêl-droed Iwerddon, i hybu iechyd a lles cadarnhaol yn y gymuned.

 

Roedd aelodau’r Gymdeithas Alzheimer’s wedi cwrdd â’r grŵp i rannu gwybodaeth â gwirfoddolwyr y clwb, cyfranogwyr o’r rhaglenni sy’n cael eu cyflwyno gan ‘Mwy na Chlwb’, ac aelodau o Gyngor Conwy. Buont yn trafod y clefyd, ynghyd â’r modd y mae’n effeithio ar bobl a theuluoedd, ac amlinellwyd enghreifftiau beunyddiol lle nad yw’r broblem yn ymwneud yn unig ag anghofio, ond hefyd ag anawsterau wrth gynllunio, newidiadau o ran hwyliad neu ymddygiad, ac anhawster o ran cynnal sgyrsiau.

 

Yna, gyda’i gilydd, cychwynnodd pawb ar daith gerdded tair milltir ar hyd llwybr yr arfordir tuag at Gastell Conwy, digwyddiad a oedd yn llwyddiant ysgubol. Roeddem yn gallu siarad â’n gilydd ar hyd y ffordd, yn rhannu hanesion ac atgofion – gan fwynhau’r golygfeydd gwych o’r dref ar yr un pryd.

Roedd unigolion o bob oed a gallu wedi cymryd rhan, ac roedd yna ymdeimlad braf o gymuned a chyflawniad wrth ddychwelyd i’r clwb, lle bu pawb yn mwynhau paned o de a chacennau bach a gafodd eu haddurno â llaw gan gyfranogwyr o’r prosiect ‘Mwy na Chlwb’.

 

Ar ran y prosiect ‘Mwy na Chlwb’, hoffem ddiolch yn bersonol i’r Gymdeithas Alzheimer’s am y gefnogaeth i sicrhau bod y diwrnod hwn yn llwyddiant, a hefyd i’r unigolion a gymerodd ran er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r achos teilwng hwn, a chodi arian ar ei gyfer.

 

Dywedodd Mandy Powell, y pennaeth iechyd, arloesedd a menter ar gyfer y prosiect: “Un o nodau allweddol y prosiect yw sicrhau bod clybiau pêl-droed wrth galon y gymuned unwaith eto, a llywio dull cymunedol o ofalu am iechyd. Mae menter iechyd y Cymdogion Oren yn anelu at ddarparu cymorth sy’n grymuso cymunedau i gael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a’u lles eu hunain, er enghraifft trwy atal, bod yn ymwybodol o glefydau, a rheoli clefydau. Ein gobaith yw sicrhau bod Conwy yn lle sy’n gyfeillgar i ddementia, lle mae’r gymuned yn cefnogi ei gilydd mewn modd gweithredol, trwy sicrhau gweithgareddau cadarnhaol ar gyfer bwrdeistref iach a hyddysg.

 

Rhagor o wybodaeth

Mae’r prosiect “Mwy na Chlwb”, dan arweiniad Cymdeithas Bêl-droed Iwerddon a Vi-Ability, yn anelu at sefydlu mentrau cymdeithasol newydd sy’n gysylltiedig â phedwar clwb pêl-droed yn Iwerddon a Chymru, a fydd yn cynllunio, datblygu a chyflawni rhaglenni cymdeithasol arloesol sy’n canolbwyntio ar iechyd, addysg a chynhwysiant cymdeithasol.

Cefnogir y cynllun peilot hwn gan Raglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd Cymru ac Iwerddon, sy’n helpu i gryfhau’r broses gydweithredu rhwng Iwerddon a Chymru, a hynny er mwyn mynd i’r afael â heriau economaidd a chymdeithasol cyffredin.

 

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect yng Nghonwy, anfonwch neges e-bost at kelly@vi-ability.org neu cysylltwch â’r swyddfa trwy ffonio 01492 583 555.

 

Ewch hefyd i www.morethanaclub.ie am ragor o wybodaeth.