Gwneud gwahaniaeth i iechyd a llesiant yn y gymuned trwy bêl-droed a menter gymdeithasol.

Pêl-droed yw’r gêm fwyaf poblogaidd yn y byd, i’w fwynhau yn draddodiadol gyda chwrw a phei ar brynhawn Sadwrn, gyda sgarff mewn lliwiau eich tîm lleol a chwaraewyr ar frig eu gêm yn ennill £20 yr wythnos (1960au).

Nawr mae’n fusnes masnachol byd-eang, gyda rhai o’r chwaraewyr drytaf (Messi / Ronaldo) yn ennill yn agos at £100 miliwn trwy gyflogau, enillion a chymeradwyaeth. Mae pawb yn gweithio saith niwrnod yr wythnos, 24 awr y dydd (ar draws sawl cylchfa amser), yn canolbwyntio ar elw a chyfranddalwyr. Rwy’n mynd ar grwydr, ond y pwynt yw bod pêl-droed wedi newid, ac mae’n llawer mwy na gêm erbyn hyn.

Mae gan rai clybiau busnesau cymdeithasol ynghlwm iddynt, yn fwyaf nodedig ar ffurf cynlluniau cymunedol. Mae gwaith Everton yn y Gymuned yn enghraifft gyfredol o arfer da. Gan weithio ochr yn ochr ag asiantaethau a phartneriaid iechyd rhanbarthol a chenedlaethol allweddol, maent yn darparu rhaglenni ymyrraeth iechyd penodol. Yn cynrhychioli Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad, y llwyddiant tebygol bydd datrysiad cost-effeithiol i’r GIG ac un na fydd yn dibynnu ar feddyginiaeth ar bresgripsiwn.

Mae menter gymdeithasol yn sefydliad sy’n cymhwyso strategaethau masnachol i wneud yn fawr o welliannau mewn lles ariannol, cymdeithasol ac amgylcheddol. Ei ddiben yw lles cymdeithasol a chymunedol, nid gwerth i gyfranddalwyr. Yn fyr, mae’n rhoi pwrpas cyn elw.

Mae Cymdogion Oren yn fenter gymdeithasol a ddatblygwyd fel rhan o Mwy Na Chlwb (rhaglen Cymdeithas Pêl-droed Iwerddon) yn gwneud gwahaniaeth tebyg trwy rymuso cymuned leol bwrdeistref Conwy i wneud penderfyniadau am ei iechyd a’i les ei hun. Cefnogir y prosiect gan raglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd Iwerddon Cymru, sy’n mynd i’r afael â heriau economaidd a chymdeithasol cyffredin. Dyluniwyd rhaglen Mwy Na Chlwb Cymdeithas Pêl-droed Iwerddon fel peilot, i brofi, fel y mae’r teitl yn awgrymu, bod y gallu i fod yn ‘fwy na chlwb pêl-droed’.

Dyw’r rhaglen ddim ond am bêl-droed, ac nid ar gyfer dynion yn unig ‘chwaith, ond am wella lles y gymuned. Roedd y camau cychwynnol wedi nodi materion iechyd allweddol a oedd yn effeithio ar y gymuned leol a thrwy weithio gyda’r gymuned, rydym wedi gallu cynllunio rhaglenni arloesol sy’n cefnogi meysydd penodol megis unigedd cymdeithasol, canser, gordewdra a dementia.

Er rydym ni ond hanner ffordd drwy’r rhaglen 18 mis, rydym eisoes yn gweld rhai canlyniadau amlwg, yn ansoddol ac yn feintiol o ran enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad. Mae’r rhaglenni pêl-droed cerdded, er enghraifft, yn llwyddiant ysgubol o ran mynd i’r afael ag unigedd cymdeithasol a gwneud gwelliannau iechyd cyffredinol i unigolion sy’n cymryd rhan, gyda 50 o aelodau sy’n cymryd rhan yn rheolaidd yn dangos arwyddion o ostyngiad mewn pwysau gwaed a chyflymder y galon wrth orffwys.

Dywedodd Colin Davies, ‘Dros y chwe mis diwethaf, mae’n clwb ni yn cael ei ddefnyddio fwy nag erioed yn ystod yr wythnos, ac roedd taliadau mynediad ar gyfer gêm ymwybyddiaeth canser y brostad y mis diwethaf yr uchaf dros y 12 mis diwethaf, heb sôn am yr arian a godwyd ar gyfer Prostate Cymru. Mae’r rhaglen wedi llwyddo i greu incwm ychwanegol, a chreu ffactor ‘teimlo’n dda’ sydd ei angen yn fawr i ddenu cefnogwyr newydd a rhai sy’n bodoli eisoes.’

Mae rhaglen Mwy Na Chlwb hefyd yn agor y clwb i ddosbarthiadau ffotograffiaeth a chelf, ac mewn partneriaeth â thîm maethu’r GIG lleol, mae cegin gymunedol byw’n iachus wythnosol.  Os yw’r sector iechyd a arweinir gan y gymuned yn mynd i ffynnu, mae’n bwysig osgoi presgripsiynau a mynd i’r afael â gwreiddyn y mater lle bo modd.

Roedd taith gerdded dementia diweddar yn y gymuned leol wedi dechrau a gorffen yn y clwb, ac yn sgil hyn, crëwyd prosiect ymwybyddiaeth ar gyfer y grŵp celf, Mae dros 26 o gyfranogwyr bellach wedi cofrestru fel ffrindiau dementia newydd ac mae’r clwb yn cymryd camau i fod yn gyfaill Dementia cofrestredig swyddogol.

Mae’r rhaglen atgofion pêl-droed arloesol wedi derbyn adborth mor wych gan ein tîm lleol, mae gwirfoddolwyr yn edrych am ffyrdd i gyflwyno hyn i’r gymuned ehangach. Mae’n dangos bod trafod hen gemau, rhaglenni gemau hen dros ben, Subbuteo, ac arogl Bovril yn gallu dod â datblygiadau na all presgripsiynau eu cyrraedd.

Ychwanegodd Kelly Davies, Pennaeth Cymuned Mwy Na Chlwb, ‘Os ydyn yn gallu cynyddu incwm y clwb pêl-droed a chodi ymwybyddiaeth a chanlyniadau iechyd lleol, bydd yn enghraifft wych o’r hyn y gall menter gymdeithasol ei gyflawni o fewn y gêm.’

Gyda llwyddiant go iawn hyd yn hyn, mae’n galonogol gweld sut mae clybiau eraill yn dilyn ei esiampl. Yn arbennig, mae’n dda gweld y corff Llywodraethu Cenedlaethol, Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW), yn buddsoddi yn ei fersiwn ei hun o raglen Mwy Na Chlwb ac yn gweithio gyda chlybiau eraill yng Nghymru i wella darpariaeth.

Ysgrifennwyd gan Mandy Powell, Pennaeth Arloesedd a Gwyddorau Bywyd, rhaglen Mwy Na Chlwb.